Adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

CLA94)-02-14

 

CLA348 - Rheoliadau’r Trefniant Cyffredin Sengl ar gyfer Marchnadoedd (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2013

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio nifer o Reoliadau o ganlyniad i Reoliad (UE) 1308/2013 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar 17 Rhagfyr 2013 sy'n sefydlu trefniant cyffredin i'r marchnadoedd ar gyfer cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau'r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007 ("Rheoliad 2013").

Dirymodd Rheoliad 2013 (yn amodol ar ddarpariaethau trosiannol a therfynol) y Trefniant Cyffredin Sengl ar gyfer Marchnadoedd blaenorol - sef Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 o 22 Hydref 2007 ("Rheoliad 2007 y Cyngor") sy'n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer marchnadoedd amaethyddol ac yn unol â darpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodol.

GweithdrefnNegyddol

 

Materion technegol: craffu

 

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

 

1.       Mae'r Rheoliadau yn defnyddio'r pŵer i ddarparu y bydd cyfeiriadau at ddeddfwriaeth Ewropeaidd 'fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd'.  Ceir y pŵer hwnnw ym mharagraff 1A yn Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.  Cyfeirir at y pŵer yn briodol mewn troednodyn ar dudalen 4 o'r Rheoliadau, ond dylai hefyd fod wedi cael ei ddyfynnu ochr yn ochr ag adran 2(2) o'r Ddeddf honno ym mharagraff agoriadol y Rhaglith.

[Rheol Sefydlog 21.2(vi) - ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol]

 

Rhinweddau: craffu

 

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

 

Cytunwyd Rheoliad 2013 ym Mrwsel ar 16 Rhagfyr fel y deuai i rym ar 1 Ionawr.  Gan fod Rheoliadau Ewropeaidd yn weithredol ar unwaith, dichon fod hynny'n ddigon o amser o safbwynt Ewropeaidd, ond ni chaniataodd ond ychydig iawn o amser i Aelod-wladwriaethau gywiro croesgyfeiriadau yn eu deddfwriaeth ddomestig, yn enwedig yr adeg honno o'r flwyddyn.

 

 O ganlyniad, y tro hwn, nid yw'r disgrifiad o Reoliad 2013 yn y Rheoliadau hyn yn dilyn y drefn arferol wrth ddyfynnu deddfwriaeth Ewropeaidd.  Byddai cyfeirio confensiynol wedi nodi Rheoliad (UE) 1308/2013 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar 17 Rhagfyr 2013 sy'n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer marchnadoedd ar gyfer cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau y Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, gyda 'Rheoliad (UE) Rhif 1308/2013' fel y term diffiniedig.

 

 Ymddengys fod yr anghysondeb yn y dyddiadau yn deillio o'r ffaith i'r Rheoliad gael ei gytuno ar 16 Rhagfyr, ond iddo gael sêl bendith ar 17 Rhagfyr.  Nid yw'r term diffiniedig 'Rheoliad 2013' yn anghywir, ond mae'r gwyro oddi wrth yr arddull drafftio arferol yn haeddu cael yr esboniad hwn.  Dylai rhif y Rheoliad hefyd gael ei fewnosod fel troednodyn i gynorthwyo darllenwyr y Rheoliadau hyn.

 

[Rheol Sefydlog 21.3(i) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.]

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Ionawr 2014